Castell Dolwyddelan
Click here for English version of this page website link
Castell Dolwyddelan
Cestyll a mynyddoedd. Dolwyddelan ac Eryri. Cymheiriaid perffaith. Mae gwella ar waith natur yn haws dweud na gwneud ond maer castell hardd hwn ai gartref creigiog yn cydblethun wych. Maer diolch am hynny i Dywysog Gwynedd yng Ngogledd Cymru a llywodraethwr y rhan fwyaf o Gymru, Llywelyn Fawr.
Castell Dolwyddelan Contact Details
Telephone: 01690 750366
Castell DolwyddelanConwy
LL46 2YH
United Kingdom
Opening Times
Mynediad olaf 30 munud cyn cau. 1 Ebr-30 Medi 09 Llun-Sad 10am-5pm Sul 11.30am-4pm 1 Hyd 09-31 Maw 10 Llun-Sad 10am-4pm Sul 11.30am-4pm Ar gau 24, 25, 26 Rhag a 1 Ion Ar rai adegau gall y safle fod ar agor a heb ei staffio ac ni chodir tâl mynediad 10am-4pm.
Pricing Details
Oedolion £2.60 Pris Gostyngol £2.25
Tocyn Teulu £7.50 (2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed)
Plant o dan 5 oed AM DDIM
Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Prisiaun ddilys tan 31ain Mawrth 2010.
Latest News and Special Offers
Gofynnwch am fynediad am ddim os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hyn neu'n 16 oed neu'n iau.
Roedd Llywelyn ab Iorwerth (1173-1240), fel yi gelwid hefyd, yn adnabod ei filltir sgwâr yn well nag unrhyw un. Roedd Dolwyddelan, ynghyd â Dolbadarn a Phrysor, yn ffurfio casgliad o gadarnleoedd allweddol yn y mynyddoedd a oedd yn strategol bwysig i lywodraethwr Cymru. Ar Ôl cyfnod Llywelyn, trosglwyddwyd y castell iw wyr Llywelyn ap Gruffudd. Llwyddodd yntau i atal lluoedd Edward am gyfnod.
Yn ddiweddarach, ychwanegodd Llywelyn lenfur syn amgylchynur iard at y gorthwr mawreddog. Aeth y Saeson ymlaen i ail-atgyfnerthur castell ac ychwanegwyd twr hirsgwar arall. Ni fu mor llwyddiannus âr cyntaf. Efallai fod cyfiawnder wedir cwbl olion yn unig a welir or twr hwn heddiw.
Gydag ychydig gymorth pobl Oes Fictoria iw hadfer, maer gaer hon or 13eg ganrif bellach yn gampwaith.